Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn

Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 9 Hydref 2024

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
14140

233

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Dechreuodd yr eitem am 14.26

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.26

Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Heledd Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi argymhellion adroddiad Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg i ladd June Fox-Roberts?

Atebwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Dŵr Cymru, ynghyd â thalu’r gosb ariannol o £24.1 miliwn, yn gwneud gwelliannau hirdymor o ran lleihau llygredd a gollyngiadau?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.49

Gwnaeth John Griffiths ddatganiad am - CPD Undy yn ennill Gwobr Ysbryd Pêl-droed Llawr Gwlad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (20 Medi).

Gwnaeth Joel James ddatganiad am - 125 mlynedd o Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

</AI5>

<AI6>

5       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl ifanc

Dechreuodd yr eitem am 15.52

NDM8683 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl ifanc’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2024.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI6>

<AI7>

6       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Seinio’r Larwm: Llywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub

Dechreuodd yr eitem am 16.16

NDM8685 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Seinio’r Larwm: Llywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub” a osodwyd ar 6 Mehefin 2024.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl ar ddeiseb P-06-1474 - Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas

Dechreuodd yr eitem am 17.03

NDM8682 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas’ a gasglodd 13,247 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl Plaid Cymru - Ariannu addysg

Dechreuodd yr eitem am 17.38

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8686 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r adroddiad ‘Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu' gan yr NAHT sy'n nodi bod y dirwedd addysgol yng Nghymru ar hyn o bryd yn wynebu argyfwng cyllido dirdynnol.

2. Yn gresynu o ganlyniad i gamreolaeth a thanariannu Llywodraeth Cymru:

a) fe welodd Cymru ei chanlyniadau PISA gwaethaf erioed yn 2022;

b) ei bod wedi methu ei tharged ar gyfer recriwtio athrawon ysgol uwchradd am yr wyth mlynedd diwethaf;

c) fod canllawiau ar ddysgu sgiliau darllen sydd wedi dyddio a’u tanseilio wedi cael effaith negyddol ar sgiliau llythrennedd; a

d) cyrhaeddodd nifer y swyddi gwag o ganlyniad i diffyg sgiliau yng Nghymru cyrraedd uchafbwynt o 20,630 yn 2022.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) anrhydeddu ar unwaith yr ymrwymiad a wnaed gan Lafur yng Nghymru yn eu maniffesto Etholiad Cyffredinol 2024 ar gyfer cyllid ychwanegol ar gyfer addysg;

b) gwrthdroi'r toriad o 6 y cant mewn gwariant fesul disgybl o fewn y gyllideb addysg, fel y nodwyd gan yr NAHT, fel cam cyntaf i gefnogi athrawon a disgyblion a chodi lefelau cyrhaeddiad; ac

c) diffinio faint mwy o athrawon fydd yn cael eu hariannu gan addewid Llafur yng Nghymru, a phryd y byddant yn dechrau addysgu mewn ystafelloedd dosbarth.

Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

25

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r adroddiad ‘Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu’ gan yr NAHT, ac yn cydnabod y pwysau ar gyllidebau ysgolion ac awdurdodau lleol.

2. Yn diolch i athrawon a staff ysgol ymroddedig Cymru am eu gwaith caled, ac yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i bumed adroddiad Corff Adolygu Annibynnol Cyflog Cymru, sy'n cynnwys codiad cyflog o 5.5 y cant i athrawon.

3. Yn cydnabod, er gwaethaf effaith enbyd 14 mlynedd o lywodraeth Geidwadol ar gyllid cyhoeddus Cymru, bod Llywodraeth Cymru wedi:

a) cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru a system newydd o gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, y mae’r ddau ohonynt yn rhoi'r dysgwr wrth wraidd y system addysg;

b) gweithredu dull ysgol gyfan i gefnogi plant a phobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl a'u lles; ac

c) diogelu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus craidd yn 2024-25 drwy godiad o 3.3 y cant i gyllidebau awdurdodau lleol a chynnal y cyllid grant uniongyrchol i ysgolion gan gynnwys y Grant Datblygu Disgyblion sy'n cefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm isel.

4. Yn cefnogi hybu safonau mewn ysgolion a cholegau fel blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ffocws ar wella cysondeb yn genedlaethol a darparu mwy o gymorth ar gyfer llythrennedd a rhifedd.

5. Yn cefnogi targedu recriwtio athrawon mewn meysydd pwnc prin fel mathemateg, gwyddorau ac ieithoedd tramor modern, ac addysg cyfrwng Cymraeg.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

23

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI9>

<AI10>

9       Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.35

</AI10>

<AI11>

</AI11>

<AI12>

10    Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 18.37

NDM8684 Sian Gwenllian (Arfon)

Llenwi’r bwlch: yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.59

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Hydref 2024

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>